Adran 10: Llan Ffestiniog i Benmachno

Print

10 image1 23

10. Llan Ffestiniog i Benmachno

Pellter: 21.3km, 13.2milltir     Esgyniad: 880m, 2850tr   Amser: 8 - 9awr

Y diwrnod hwn yw’r mwyaf anodd yn sicr. Cerddwch ar hyd llwybrau da drwy drysor cudd ceunant Cwm Cynfal a chroeswch weundiroedd gwyllt, agored ac, ar brydiau, corsiog ar brydiau y Migneint. Mae angen sgiliau cyfeiriannu da  yma oherwydd nad yw wedi bod yn bosib gosod cymaint o farcwyr ffordd ag yr hoffem yn y SoDdGA. Cerddwch i lawr y llwybr drwy weithfeydd chwarel i Gwm Penmachno, a dringwch am y tro olaf ac esgyn eto drwy’r goedwig i Benmachno.

Peidiwch â chael eich temtio i ddilyn y wal dros y Migneint yn hytrach na dilyn y Llwybr i lawr i'r dyffryn. Mae'r Llwybr yn dilyn hawliau tramwy sych; mae'r wal yn eich arwain i mewn i foes o gors.

Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.

Dolen i fap:  Rhan un (JPG)Rhan dau (JPG)

Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (rhan un, JPG)

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (rhan dau, JPG)

O Lan Ffestiniog, croeswch y briffordd a cherddwch y llwybr gan ddilyn yr arwyddbost i Gwm Cynfal. Mae’n werth cerdded drwy’r ceunant cuddiedig hwn. Croeswch yr  A470 a pharhewch i ddilyn yr afon. Fe welwch Raeadr Cynfal ysblennydd o’ch blaen. Croeswch y ffordd a dilynwch y trac o gwmpas  Llyn Morwynion. Croeswch yr argae a dilynwch y llwybr ar hyd gwaelod Craig y Garreg Lwyd, gan fynd heibio Caer Bryn y Castell.  Yna, croeswch y Migneint a dilynwch ffordd Rufeinig Sarn Helen i fyny’r gefnen, cyn cyrraedd Chwarel Cwt y Bugail (Manod) yn  y pendraw.

Dilynwch y dramffordd a’r inclên i Chwarel Rhiwbach a’r llwybr i Chwarel Rhiw Fachno a Chwm Penmachno. Yng Nghwm Penmachno, dilynwch y marcwyr sy’n eich cyfeirio at y goedwig. O’r diwedd byddwch yn cyrraedd Eglwys Saint Tudclud, Penmachno, gyferbyn â Thafarn yr Eagles.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith.  Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Cwm Cynfal

image1 23

Mae Afon Cynfal yn drysor cudd ac mae’n werth dychwelyd yno er mwyn cerdded i lawr yr afon o Lan Ffestiniog, lle mae’r Gynfal yn taranu dros gwymp dŵr ac yn llifo drwy’r ceunant cul. Mae’r cwymp dŵr ar ben y dyffryn yn arbennig o drawiadol.

Llyn Morwynion

image2 26

Yn ôl y Mabinogi, credir mai yma cafodd Blodeuwedd a’i Morwynion o Ardudwy eu hymlid gan y dewin Gwydion. Wrth edrych yn ôl tuag at eu herlidwyr, nid ydynt yn sylwi ar y llyn ac mae’r morwynion yn boddi, heblaw am Blodeuwedd sy’n cael ei throi’n dylluan.

Mae Thomas Pennant yn adrodd fersiwn arall am pan deithiodd Gwŷr Ardudwy i Glwyd er mwyn ceisio denu merched yr ardal yn ôl i Ardudwy. Roedd Gwŷr Clwyd o’u coeau a daliasant Wŷr Ardudwy mewn brwydr. Fe’u lladdwyd a chawsant eu claddu ym Meddau Gwŷr Ardudwy. Dywedir i’r morynion neidio i’r llyn mewn anobaith a boddi oherwydd eu cywilydd eu bod wedi derbyn eu gŵyr newydd, heb ystyried eu teuluoedd, yn ôl y chwedl.

http://www.mysteriousbritain.co.uk/wales/gwynedd/legends/

Bryn y Castell
Dyma Fryn y Castell, caer o’r Oes Haearn ger Sarn Helen sef safle traddodiadol Beddau Gwŷr Ardudwy.

Rhwng 1979 a 1985, cloddiwyd y safle a chanfuwyd tua thunnell o wastraff diwydiannol slag, ffwrneisi mwyndoddi, aelwydydd, eingionau carreg, sawl carreg naddu a llathru, breichledau gwydrog addurnedig a gemau bwrdd ar y safle.

Un o’r darganfyddiadau archaeolegol pwysicaf a wnaed yn ystod y gwaith cloddio oedd y cyntaf o ddau gwt cylch a ganfuwyd yn Eryri.
Mae’r gaer hon wedi ei hadfer yn rhannol, ac yn enghraifft wych o amddiffynfa.

image3 29

http://www.eryri-npa.gov.uk/archived/visiting-old/walking/Moderate-Leisure-Walks/Bryn-y-Castell

Sarn Helen
Dyma Sarn Helen, ffordd Rufeinig drwy orllewin Cymru sy’n cysylltu sawl anheddiad Rhufeinig. Mae’r hen sarn i’w gweld yn glir mewn mannau. O’r gaer Rufeinig yng Nghaerhun, mae Llwybr Llechi Eryri’n arwain ar hyd cyrion Eryri, at y Rhaeadr Ewynnol a Dolwyddelan, cyn dilyn y gefnen.

Chwarel Cwt y Bugail

image4 32

Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd, cludwyd trysorau celf o brif orielau Llundain ar lorïau i’r chwarel. Er mwyn cyflawni hyn, roedd angen gostwng y ffordd islaw’r brif lein reilffordd i Drawsfynydd oherwydd roedd rhai o’r paentiadau’n rhy fawr. Yna, cludwyd y paentiadau ar wagenni i ddyfnderoedd y gloddfa lle cawsant eu dadlwytho a’u storio mewn adeiladau aerdymherus. Cyfeiria un wefan at

“pictures from the royal palaces, from the Tate and the National Gallery, including 19 Rembrandts, Van Dykes, Leonardo da Vincis and Gainsboroughs, together with the Crown Jewels were brought to Manod's huge underground workings in vehicles disguised as delivery vehicles for a chocolate company”.

Er y symudwyd y campweithiau wedi’r rhyfel, daliodd Adran yr Amgylchedd eu gafael ar y safle.

Gydag Argyfwng Taflegrau Ciwba ym 1962 yn ei anterth a’r posibilrwydd o ymosodiad niwclear, dengys dogfennau cyfrinachol bod bwriad i symud trysorau celf pwysicaf y genedl yn ôl i Fanod. Rhoddwyd y gorau i’r cynllun rhag i’r cyhoedd glywed si am y gweithredu.

Chwarel Rhiwbach

image5 34

Mae adfeilion barics chwarelwyr, lle’r preswyliai’r chwarelwyr yn ystod yr wythnos, sawl tyddyn, cutiau moch a thoiledau hyd yn oed ar y safle hwn. Yn 1908, roedd digon o boblogaeth yma i gynnal ysgol a ysgafnhaoodd hyn faich nifer y plant oedd yn mynychu Ysgol Eglwys Cwm Penmachno. Nid oedd rhaid i’r plant oedd yn byw yn y barics gerdded y daith hir, serth i’r ysgol bellach. Fe â’i ei hathrawes, Mrs Kate Hughes o Flaenau Ffestiniog i fyny allt i’r ysgol ym mhob tywydd mewn wagen lechi wag a deuai i lawr ar ‘gar gwyllt’ sef sedd ag olwynion. Caewyd y chwarel yn ystod y rhyfel ac o’r herwydd, caewyd yr ysgol ym 1913.

 image6 36

image7 38

Chwarel Rhiw Fachno

image8 41
Fe’i gelwir hefyd yn chwarel Cwm Machno ac fe’i caewyd ym 1962. Roedd y cysylltiadau cludiant yn wael a chludid llechi i lawr y dyffryn i Fetws y Coed. Roedd ei safle a’r gofod tipio’n gyfyng iawn. Mae’r inclên anferth wedi ei gofrestru ac os edrychwch o’ch cwmpas fe welwch olion gwych y cwt weindio. Roedd y gronfa ddŵr uwchben y chwarel yn darparu dŵr ar gyfer y safle.

Cwm Penmachno
Roedd tua 500 o breswylwyr Cwm Penmachno yn ennill eu bywoliaeth o’r chwareli llechi. Pan gaewyd y chwareli ddiwedd y 1950au, gostyngodd y boblogaeth i ychydig dros 70. Mae tua hanner y tai’n dai haf.
Ni chysegrwyd yr eglwys, ac o 1870 hyd at 1909 fe’i defnyddiwyd yn ysgol i 120 o blant. Tŷ Trevallen yw erbyn heddiw.
Ceir byrddau’n dehongli hanes, diwylliant a thirwedd y pentref a nifer o arteffactau lleol yn Ystafell Treftadaeth, Canolfan Gymuned Shiloh. Mae yma sgrin gyffwrdd ryngweithiol sy’n adrodd hanes y pentref 60 mlynedd yn ôl drwy gyfres o hanesion llafar difyr ac addysgiadol. Plant ysgol lleol sydd wedi dylunio’r rheiliau y tu alla i`r Shiloh.

image9 44

“I left school in Cwm at eleven years old. We used to be in the headmasters room then, and Eifion and Tom Ellis, I remember well, sat the closest to the teacher. What they had done was remove every screw from his desk and sit back down. The teacher would have given them a slap if he knew what they had done! The desk looked fine as it was, but when he came in and put his tea down on the desk the whole thing completely collapsed! There was such laughter in the classroom for which we got lines to copy”

(Huw Lloyd – gynt o Gwm Penmachno)

Eglwys Sant Tudclud
Bu’r eglwys hon ar gau am ryw ddeng mlynedd ond gydag ewyllys cymuned y pentrefwyr fe’i hail-agorwyd.
Mae Eglwys Sant Tudlud yn gartref i feini arysgrifenedig Rhufeinig pwysig. Daeth un maen i’r fei wrth agor chwarel Rhiwbach ger y ffordd Rufeinig, Sarn Helen, sy’n croesi Cymru o gaer Canovium (Caerhun) yn Nyffryn Conwy i Frycheiniog. Canfuwyd tri maen arall ym Mhenmachno, sy’n awgrymu fod y pentref yn eithaf pwysig. Mae arysgrif Ladin ‘Venodotus’ sef yr enw Lladin ar hen deyrnas Gwynedd ar un garreg. Mae’r pedwar maen yn dyddio o’r 7fed, y 9fed a’r 13eg ganrif ac maent i’w gweld yn Eglwys Sant Tudclud.

image10 46

Cynlluniwyd y ffenestr gwydr lliw fodern gan yr arlunydd lleol, Yvonne Amor, ac fe’i peintiwyd gan wirfoddolwyr.

Penmachno
Yr Eagles
Ceir byncws yn yr Eagles gyda gwres canolog a lle i hyd at 30 o bobl gysgu, yn bennaf mewn ystafelloedd 4 gwely; mae’r holl ystafelloedd yn breifat (ni fyddwch yn rhannu ystafell â dieithriaid) a darperir yr holl ddillad gwely.
Mae lle i gloi beiciau’n ddiogel, ystafell sychu dillad a WiFi am ddim yno.

http://www.eaglespenmachno.co.uk/