Adran 9: Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Print

9 image1 23

9. Tanygrisiau i Lan Ffestiniog

Pellter: 8.6km, 5.4milltir      Esgyniad: 250m, 850tr     Amser: 2.5 - 3.5awr

Nid yw’r llwybr o Danygrisiau i Flaenau Ffestiniog gyda’r harddaf ond mae llawer o waith wedi ei gyflawni ym Mlaenau Ffestiniog i adfywio’r pentref. O’r dref, mae’r llwybr yn arwain i lawr i gwm llydan Bowydd cyn cyrraedd ceunant hardd Cwm Teigl. O’r fan hon, taith fer drwy’r caeau sydd gennych i fyny i Lan Ffestiniog.

Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.

Dolen i fap (JPG)

Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)

Gan adael Caffi’r Llyn, cerddwch y daith fer i Danygrisau. Cadwch lygad am y llwybr troed sy’n croesi’r afon ar eich llaw dde a dilynwch lwybrau caeau a thraciau i Flaenau Ffestiniog. Wrth gerdded ar hyd y Stryd Fawr, edrychwch ar yr arysgrifen o ddywediadau Cymraeg sydd wedi’u naddu i’r llwybr; hefyd, cadwch lygad am yr Afon o Lechi yn y maes parcio canolog, a’r cerfluniau llechi gerllaw.

Ar ôl cerdded ffyrdd y pentref ac wrth yr ysgol uwchradd, trowch at Gwm Bowydd. Wedi i chi gerdded llwybr serth i lawr drwy’r coed i waelod y dyffryn, ewch yn eich blaen i ben draw’r Cwm. Cyn cyrraedd yr A496, cerddwch y llwybr heibio i Hen Neuadd Pengwern i geunant hardd cudd Cwm Teigl.  Yna, cerddwch ar hyd llwybrau’r caeau i Lan Ffestiniog a thafarn y Pengwern.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith.  Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Blaenau Ffestiniog
Nid yw Blaenau Ffestiniog bob amser yn cael ei gysylltu â’r tipiau llechi glas sy’n amgylchynu’r dref. Mae’n anodd credu i’r Arglwydd Lyttleton ysgrifennu ym 1756 am Ffestiniog, neu Lan Ffestiniog, “If you have a mind to live long, and renew your youth, come and settle in Ffestiniog. Not long ago, there died in this neighbourhood an honest farmer who was 105 years of age. By his first wife he had 30 children, 10 by his second, 4 by his third and 7 by two concubines. His eldest son was 81 years older than his youngest and 800 of his descendants attended his funeral”.
Er i Reilffordd Ffestiniog chwarae rhan bwysig yn nhwf diwydiant llechi’r ardal, yn rhyfedd ddigon, sicrhau cytundeb i ddarparu llechi i Hambwrg i ail-doi adeiladau’r ddinas yn dilyn tân a’i dinistriodd ym 1842 wnaeth Blaenau Ffestiniog yn enwog. Datblygodd ei hun yn ddarparwr llechi blaenllaw i’r farchnad ryngwladol. Roedd y tân a fu’n llosgi rhwng 4 a 8 Mai 1842, wedi dinistrio tair eglwys a sawl adeilad cyhoeddus ac fe wnaed rhagor na 20,000 o bobl yn ddigartref. Cymerodd y gwaith ailadeiladu tua deugain mlynedd ac fe ddefnyddiwyd llechi Blaenau Ffestiniog ar ran fwyaf y toeau.

image1 23

Mae’n werth ymweld ag eglwys ddiddorol Sant Pedr lle mae’r llwybr yn cyfarfod â Stryd Fawr Blaenau Ffestiniog. Ceir golygfeydd chwarela, atgofus yn y ffenestri gwydr lliw.

image2 25Afon Llechi
Mae’r afon Lechi’n nodwedd ger y maes parcio gyferbyn â’r orsaf reilffordd. Mae’n cynnwys darnau o lechi o chwareli o bob cwr o Gymru ac mae’n ddarn o gelfyddyd hynod a lliwgar.

 

 

 

 

Hen Neuadd Pengwern
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd prynodd y Weinyddiaeth Amddiffyn yr eiddo hwn er mwyn darparu llety i filwyr tra’r oeddent yn trosglwyddo trysorau celf o’r Oriel Genedlaethol yn Llundain i chwarel Cwt y Bugail, uwchben Llan Ffestiniog.
Arferai’r llwybr sy’n mynd heibio’r neuadd i Lan Ffestiniog groesi pont dros Afon Teigl. Yn anffodus, fe chwalodd tirfeddiannwr y bont yn ystod anghydfod rhwng cymdogion, felly mae ein llwybr bellach yn mynd drwy Gwm Teigl, cyn dringo ochr y bryn i’r pentref.

image3 27Y Pengwern
Bu’n fan yfed pwysig i anifeiliaid ers Oes y Rhufeiniaid. Fe’i lleolir y naill ochr i’r llall i’r Sarn Helen Rufeinig a gysylltai caer Canovium yn nyffryn Conwy a’r gaer ym Mrycheiniog, 160 milltir i ffwrdd. Roedd y porthmyn yn defnyddio’r llwybr yn aml i fynd â’u hanifeiliaid i’r farchnad ac roedd y Pengwern yn un o brif fannau aros yr ardal. Mae hanes cyfoethog i’r dafarn ac ymwelai sawl teithiwr â hi. Ym 1854 bu i George Borrow ymweld â’r dafarn i ymchwilio i’w lyfr Wild Wales, a gyhoeddwyd ym 1862.
Rhoddodd y perchnogion y gorau i’r fusnes pan aeth yn anhyfyw.image4 30
Llan Ffestiniog
Dewis prin o lety sydd yn Llan Ffestiniog. Yn bwysicach, ceir siop bentref sy’n gwerthu nwyddau sylfaenol. Gan nad oes siop rhwng y fan yma a Betws y Coed, dros 20 milltir i ffwrdd, byddai’n ddoeth prynu dogn o fwyd, yn arbennig os ydych yn defnyddio’r byncws ym Mhenmachno.