Adran 7: Beddgelert i Groesor

Print

7 image1 23

7. Beddgelert i Groesor

Pellter: 7.2km, 4.4milltir     Esgyniad: 400m, 1300tr     Amser: 2 - 3awr

Aiff y rhan yma’n â chi o brysurdeb Beddgelert i lonyddwch Croesor ar hyd llwybr glan yr afon trawiadol, lôn wledig ddistaw ac ar hyd ffordd y porthmyn dros y gweundiroedd agored.

Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.

Dolen i fap (JPG)

Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML

Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)

O Feddgelert, dilynwch y Glaslyn ar hyd llwybr wedi ei balmantu drwy barcdir, gan ymweld â bedd Gelert gerllaw o bosibl. Wedi i chi groesi’r afon a’r rheilffordd, dilynwch y llwybr cyffrous garw sy’n croesi pontydd a cherddwch y llwybrau ystyllod pren sy’n swatio glos at y graig serth. Dyma Fwlch Aberglaslyn. Ar ddiwedd llwybr glan yr afon dringwch i’r chwith gydag ochr y ffordd at faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nantmor, lle ceir toiledau. 

Yna, cerddwch y lon gul at bentref hardd Bwlchgwernog lle mae ffordd y porthmyn yn croesi’r gweundir i Groesor.  Chwiliwch am y garreg filltir hynafol.

Gwybodaeth am y llefydd ar hyd rhan hon y daith.  Nodwch nad yw Grŵp Gweithred Cymuned Cwm yn gyfrifol am wefannau mudiadau eraill.

Beddgelert
Mae safle`r bedd mewn cae yn rhan ddeheuol y pentref
Dyma’r arysgrifen ar garreg fedd Gelert:

"Yn y 13eg, roedd gan Llywelyn, tywysog Gogledd Cymru, blas ym Meddgelert. Un diwrnod aeth y tywysog i hela heb Gelert ei gi ffyddlon. Pan ddychwelodd Llywelyn, neidiodd y ci’n waed i gyd i groesawu ei feistr.
Dychrynodd y tywysog a brysiodd i chwilio am ei fab a chafodd crud y baban yn wag, y dillad gwely ar lawr yn waed i gyd. Yn ei ddychryn trywanodd y tad y ci a’i gleddyf gan feddwl fod y ci wedi lladd ei aer. Atebwyd gwaedd farwol y ci gan gri egwan plentyn. Chwiliodd Llywelyn a chafodd ei fab yn ddianaf, ond yn ei ymyl gorweddai corff blaidd anferth a laddwyd gan Gelert. Dywedir i’r tywysog a’i galon yn llawn tristwch edifeiriol beidio gwenu byth wedyn. Claddodd Gelert yma ag am hynny gelwir y fan yn Bedd Gelert”

http://www.beddgelerttourism.com/

Ni cheir tystiolaeth o gwbl am fodolaeth Gelert er y gelwir twmpath yn y pentref yn ‘Fedd’ Gelert sy’n gyrchfan i dwristiaid. Yn hytrach, fe’i priodolir i awydd perchennog Gwesty’r Afr ym Meddgelert, David Pritchard i gysylltu’r chwedl â’r pentref er mwyn annog twristiaeth. Ceir chwedlau tebyg yn Ewrop ac Asia.[3]

Aberglaslyn
Dyma un o lecynnau prydferthaf enwocaf Cymru.

image1 23

image2 26

Mae hanes chwedlonol i Bont Aberglaslyn. Fe’i hadeiladwyd gan y diafol gyda’r ddealltwriaeth y byddai’n derbyn enaid y creadur byw cyntaf i’w chroesi. Wedi i’r diafol gwblhau ei bont, galwodd yn ei dafarn lleol, Y Delyn Aur. Bu iddo gyfarfod â’r dewin Robin Ddu, a aeth yn ufudd i archwilio’r bont newydd. Ac yntau’n cario torth o fara, denodd gi’r dafarn yn gwmni iddo. Dywedodd Robin wrth y diafol na fyddai’r bont yn ddigon cryf i ddal pwysau ei dorth hyd yn oed. Ffromodd y diafol a gorchmynnodd y dewin iddo daflu’r dorth ar y bont er mwyn gweld pa mor gryf ydoedd. Ar hynny, rhedodd y ci am y dorth. Twyllwyd y diafol o’i enaid dynol a dychwelodd Robin Ddu i’r dafarn i orffen ei beint.

Nantmor
Yn Nantmor mae cartref enwog Dafydd Nanmor, bardd adnabyddus o’r 15fed ganrif (bu farw ym 1490), a gafodd ei enw o bentrefan Nanmor.

Yma ffilmiwyd The Inn of the Sixth Happiness, ffilm 20th Century Fox ym 1957 sy’n seiliedig ar stori wir Gwladys Aylward, morwyn benderfynol o Brydain, a ddaeth yn genhades yn Tsieina yn ystod y blynyddoedd cythryblus cyn yr Ail Ryfel Byd.

Roedd fferm gyfagos Carneddi yn gartref i Ruth Janette Ruck. Cyhoeddodd trioleg o lyfrau am ei phrofiadau yn ystod y 1950au, 1960au a’r 970au, sef Place of Stones, Hill Farm Story a Along Came a Llama.

image3 29

https://en.wikipedia.org/wiki/Nantmor

Pentrefan yw Croesor wrth droed y Cnicht, Matterhorn Cymru. Âi tramffordd Croesor a wasanaethai chwarel Croesor ar hyd gwaelod y dyffryn, cyn codi’n serth i Fwlch Rhosydd drwy’r inclên.
Edrychwch ar y gwaith celf cyhoeddus y tu allan i’r maes parcio sy’n darlunio treftadaeth a diwylliant y pentref.

image4 32

Cewch egwyl braf a chacen dda yng Nghaffi Croesor.

image5 35

https://www.facebook.com/orielcafficroesoratcnicht.cymru/