1. Bangor i Fethesda
Pellter: 10.2km, 6.3milltir Esgyniad: 325m, 1050tr Amser; 3 - 4awr
Mae rhan Bangor i Fethesda Llwybr Llechi Eryri yn gyflwyniad gwych i Eryri a’i threftadaeth lechi. Gan gychwyn o lan y môr, bydd y daith esmwyth hon yn ennyn eich diddordeb ar ei hyd wrth agosáu at y mynyddoedd.
Sylwer: Mae gwall ar bwynt bwled rhif 2 ar dudalen 32 yn yr hen ganllaw. Pan gyrhaeddwch yr A55, trowch i'r chwith, gan gadw'r A55 ar eich DDE.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)
Teithiau gylchol ar hyd y Llwybr
Bangor - Halfway Bridge http://my.viewranger.com/track/details/MTM2ODcyNzc=
Bangor - Bethesda https://my.viewranger.com/route/details/MjkzMzU0OQ==?fbclid=IwAR1IxeY8LvE9roJjIrKbcGvyMr8DnqJtk9iWRv_tjPOYMBcIMCz1_ydC8ks
Trosolwg o'r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)
2. Bethesda i Lanberis
Pellter: 11.6km, 7.2milltir Esgyniad: 360m, 1200tr Amser: 3 - 4awr
Mae’r rhan o Fethesda i Lanberis yn eich arwain drwy galon y diwydiant llechi. Wedi i chi ddilyn Afon Ogwen am ychydig, cerddwch y llwybr ar hyd glan yr afon a dringwch o ddyffryn Ogwen i Fynydd Llandegai ar hyd ffyrdd llai. Wedi croesi gweundir gwyllt Gwaun Gynfi, mae llwybrau da yn eich arwain at Barc Padarn, Amgueddfa Lechi Cymru a Llanberis.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)
Teithiau gylchol ar hyd y Llwybr
Bethesda - Lodge Dinorwig https://my.viewranger.com/route/details/MjkzNjIzNg==
Lodge Dinorwig - Llanberis https://my.viewranger.com/route/details/Mjk0ODQ5Mg==
Trosolwg o'r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)
3. Llanberis i Waunfawr
Pellter: 6.1km, 3.8milltir Esgyniad: 310m, 1000tr Amser: 2 - 3awr
Mae’r rhan i Waunfawr yn gadael Llanberis drwy ei strydoedd cul cyn dringo ochr y dyffryn i groesi uwchben Llanberis. Aiff traciau coedwig da â chi at lwybr troed i lawr i Waunfawr a rhan ddewisol llwybr Taith y Pererin Gogledd Cymru.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)
Teithiau gylchol ar hyd y Llwybr
Llanberis -Waunfawr - https://my.viewranger.com/route/details/Mjk1NjQ3OA==
Mae'r llwybr wedi'i flocio ar hyn o bryd yn GR 558600 ac rydym yn ceisio trefnu iddo gael ei ailagor ar ryw adeg. Yn y cyfamser, dilynwch https://my.viewranger.com/route/details/Mjk4Mzc1Mw==
Trosolwg o'r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)
(hefyd yn cynnwys Waunfawr i Ryd Ddu)
4. Waunfawr i Nantlle
Pellter: 9.5km, 5.9 milltir Esgyniad: 270m, 900tr Amser: 3 - 4awr
Am y rhan fwyaf o`r daith, mae Llwybr Llechi Eryri’n dilyn llwybr Taith y Pererin Gogledd Cymru. Gan adael Waunfawr ar hyd lôn ger gorsaf Rheilffordd Ucheldir Eryri, mae’r llwybr yn dilyn lôn wledig cyn fforchio i fyny’r llechwedd coediog serth. Maes o law, ceir gweundir a gwelir golygfeydd o Mynydd Mawr i’r chwith a Chrib Nantlle ddanheddog o’ch blaen. Yn fuan, cyrhaeddir gweithfeydd llechi helaeth Dyffryn Nantlle ac mae’r llwybr yn mynd heibio i domennydd uchel a cheudyllau chwarel anferth cyn cyrraedd pentref Nantlle.
Sylwer: Mae gwall ar bwynt bwled rhif 1 ar dudalen 40 yn yr hen ganllaw. Ar y pen, trowch i`r dde a wedyn i`r chwith i fynd i fyny........
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)
Teithiau gylchol ar hyd y Llwybr
Waunfawr - Y Fron: https://my.viewranger.com/route/details/Mjk3NTE5Ng==
Y Fron- Nantlle: https://my.viewranger.com/route/details/MzA4MTEwNw==
Trosolwg o'r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)
(hefyd yn cynnwys Llanberis i Waunfawr a Nantlle i Rhyd Ddu)
5. Nantlle i Ryd Ddu
Pellter: 8.2km, 5.1milltir Esgyniad: 260m, 850tr Amser: 2 - 3awr
Mae Dyffryn Nantlle yn lle prydferth, didramwy, gyda mawredd Mynydd Mawr ar y naill ochr a chlogwyni uchel Crib Nantlle ar y llall. Cewch lwybr esmwyth ar hyd gwaelod y dyffryn cyn esgyn, gydag un man corsiog iawn, i’r goedwig a disgyn i Ryd Ddu lle ceir tafarn a chaffi.„
Nodyn: Mae'r llwybr trwy'r goedwigaeth wedi'i newid. Dilynwch y llwybr presennol allan o'r dyffryn, gan gwrdd a'r goedwigaeth yn hen leoliad y gamfa. Trowch i'r ddenes gyrraedd giat newydd. Trowch i'r chwith i'r coed a pharhewch nes i chi gwrdd a'r prif lwybr. Yna trowch i'r dde i ymyno a'r llwybr gwreiddiol.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)
Teithiau gylchol ar hyd y Llwybr
Nantlle - Rhyd Ddu: https://my.viewranger.com/route/details/MzA4MTEyMg==
Trosolwg o'r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)
6. Rhyd Ddu i Feddgelert
Pellter: 8.4km, 5.2milltir Esgyniad: 110m, 350tr Amser: 1.5 - 2.5awr
Mae’r rhan hon yn dilyn Lôn Gwyrfai'r holl ffordd - llwybr a sefydlwyd yn ddiweddar sy’n hawdd a hamddenol ac wedi ei arwyddo’n dda. Ceir llwybrau coedwig a golygfeydd o fynyddoedd uchaf Eryri.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG..
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)
Trosolwg o'r adran gan Vicky Anne Jones (yn Saesneg)
7. Beddgelert i Groesor
Pellter: 7.2km, 4.4milltir Esgyniad: 400m, 1300tr Amser: 2 - 3awr
Aiff y rhan yma’n â chi o brysurdeb Beddgelert i lonyddwch Croesor ar hyd llwybr glan yr afon trawiadol, lôn wledig ddistaw ac ar hyd ffordd y porthmyn dros y gweundiroedd agored.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
8. Croesor i Danygrisiau
Pellter: 7.4km, 4.6milltir Esgyniad: 470m, 1550tr Amser: 3 - 4 awr
Mae’n debyg mai dyma ran fwyaf gwyllt ac egnïol y llwybr hyd yn hyn. Aiff llwybr da â chi i fyny llethrau dyffryn Croesor i chwarel Croesor. Er mwyn cyrraedd chwarel anghysbell Rhosydd mae angen sgiliau cyfeiriannu er y ceir arwyddbyst. O’r fan hon mae llwybr llydan yn mynd â chi i lawr at Lyn Cwmorthin a’i anheddiad segur. O’r fan hon ceir ffordd i lawr at Danygrisiau.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
9. Tanygrisiau i Lan Ffestiniog
Pellter: 8.6km, 5.4milltir Esgyniad: 250m, 850tr Amser: 2.5 - 3.5awr
Mae`r Llwybr o Danygrisiau i Blaenau Ffestiniog yn mynd â chi i ganolfan y diwydiant llechi, lle cafodd llechi eu hallforio ledled y byd. Ymhlith y datblygiadau diweddar mae cerfluniau trawiadol a nodweddion llechi, gan ddangos hanes a diwylliant yr ardal. O'r dref, mae'r Llwybr yn pasio i lawr y Cwm Bowydd llydan cyn croesi drosodd i geunant deniadol Cwm Teigl. O'r fan hon, mae'n daith fer dros y cae i fyny i Lan Ffestiniog.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (JPG)
10. Llan Ffestiniog i Benmachno
Pellter: 21.3km, 13.2milltir Esgyniad: 880m, 2850tr Amser: 8 - 9awr
Y diwrnod hwn yw’r mwyaf anodd yn sicr. Cerddwch ar hyd llwybrau da drwy drysor cudd ceunant Cwm Cynfal a chroeswch weundiroedd gwyllt, agored ac, ar brydiau, corsiog ar brydiau y Migneint. Mae angen sgiliau cyfeiriannu da yma oherwydd nad yw wedi bod yn bosib gosod cymaint o farcwyr ffordd ag yr hoffem yn y SoDdGA. Cerddwch i lawr y llwybr drwy weithfeydd chwarel i Gwm Penmachno, a dringwch am y tro olaf ac esgyn eto drwy’r goedwig i Benmachno.
Peidiwch â chael eich temtio i ddilyn y wal dros y Migneint yn hytrach na dilyn y Llwybr i lawr i'r dyffryn. Mae'r Llwybr yn dilyn hawliau tramwy sych; mae'r wal yn eich arwain i mewn i foes o gors.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Dolen i fap: Rhan un (JPG), Rhan dau (JPG)
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (rhan un, JPG)
11. Penmachno i Fetws y Coed
Pellter: 8.6km, 5.3milltir Esgyniad: 150m, 500tr Amser: 2 – 3awr
Wedi’r rhan olaf, dyma ran hawdd o’r llwybr. Cerddwch ar hyd llwybrau coedwigaeth llydan sy’n eich arwain at Bont Rufeinig. Yna, dilynwch y ffordd i Gaffi Rhaeadr y Graig Lwyd. Aiff llwybr braf â chi heibio i Ffos Anoddun (Fairy Glen). Cymerwch y ffordd lai a thaith fer drwy’r coetir cyn i chi gyrraedd prysurdeb Betws y Coed.
Nodyn 12 Mehefin 2018
Nodwch bod y gamfa i`r goedwig o`r ffordd i`r gogledd o Benmachno ar y troad 90%
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
12. Betws y Coed i Gapel Curig
Pellter: 9.5km, 5.9milltir Esgyniad: 420m, 1350tr Amser: 3 – 4awr
Dyma ran hyfryd a diddorol o’r Llwybr. Wedi gadael Betws y Coed, mae’r llwybr sydd wedi ei gynllunio’n dda yn eich arwain ar hyd glan yr afon,\ ac yn mynd heibio i’r Rhaeadr Ewynnol enwog cyn cyrraedd y ffordd ger y Tŷ Hyll. Bydd llwybr serth yn eich arwain unwaith eto i Goedwig Gwydir a llwybrau coetir da. Wedi i chi adael y goedwig, fe egyr golygfeydd anhygoel o’r Wyddfa, Moel Siabod, y Carneddau a’r Glyderau o’ch blaen wrth i chi ddisgyn i Gapel Curig.
Sylwch fod rhannau o'r llwybr rhwng Betws y Coed a Thŷ Hyll ar gau yn dilyn stormydd mis Chwefror, ac mae'r gwaith atgyweirio wedi ei ohirio o ganlyniad i Covid-19.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
13. Capel Curig i Fethesda
Pellter: 17.6km, 11milltir Esgyniad: 150m, 500tr Amser: 5 - 6awr
Mae’r cerdded anodd wedi gorffen a gallwch fwynhau llwybr sydd bron yn llwyr wastad i ben dyffryn siâp U trawiadol Nant Ffrancon. Ewch yn eich blaen ar hyd ffordd lai am rai milltiroedd i lawr y dyffryn hardd hwn, cyn ymuno â llwybr beicio Lôn Las Ogwen. Cewch eich arwain heibio i dipiau lechi glas rhaeadrol Chwarel y Penrhyn cyn i ddarn byr o’r llwybr beicio fynd â chi yn ôl i Fethesda. Dyna chi wedi cwblhau’r daith. Llongyfarchiadau.
Mae'r mapiau a'r disgrifiadau llwybr wedi cael eu darparu ar ffurf JPG.
Dolen i fap: Rhan un (JPG), Rhan dau (JPG)
Lawrlwythwch lwybr GPS mewn fformat KML
Lawrlwythwch y disgrifiad o'r llwybr (rhan un, JPG)