Llwybr Llechi Eryri
Cerddwch y llwybr cyfan
Beth yw’r llwybr?
Llwybr cylch 83 milltir sy’n galluogi cerddwyr i ddarganfod treftadaeth diwydiannol pentrefi chwarelyddol Eryri ydy hwn.
Mae’r llwybr yn cychwyn yn Aber Ogwen ger Bangor ac yn gorffen ym Methesda a bydd yn mae’n denu cerddwyr i bentrefi Llanllechid, Bethesda, Llanberis, Waunfawr, Nantlle, Rhyd Ddu, Beddgelert, Croesor, Ffestiniog a Phenmachno. Mae’n mynd heibio nifer o fentrau cymdeithasol a chyfleusterau cymunedol a mae’n darparu cyfleoedd i bobl gael gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o dreftadaeth llechi yr ardal.